top of page
Dr. Yong Ryun Kim

Derbyniodd Dr Yong Ryun Kim ei raddau MEng a PhD o adran gwyddor deunyddiau a pheirianneg Coleg Imperial, Llundain, y DU, dan oruchwyliaeth yr Athro Sandrine Heutz a Mary Ryan. Yn ystod ei PhD, roedd ei draethawd ymchwil yn cynnwys dadansoddi a gweithgynhyrchu haenau ocsid metel gan ddefnyddio prosesu gwactod.  Ar ôl ennill ei radd PhD, ymunodd â grŵp OSPL yn GIST, Corea, fel ymchwilydd ôl-ddoethurol am 3.5 o flynyddoedd o aeaf 2017.  Roedd ei brosiect ymchwil yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu celloedd solar perofsgit ac organig (ar sail fulleren a seiliau eraill) hynod sefydlog ac effeithlon, wedi’u prosesu gan hydoddiant (strwythur p-i-n ac n-i-p gan ddefnyddio catïonau sengl a chymysg)o ddyfeisiau ar raddfa fach i fawr.  Mae ganddo brofiad helaeth o weithgynhyrchu dyfeisiadau da o safon.

​

Yn ystod gwanwyn 2021, daeth Ryun i Abertawe ac mae wedi ymuno â grŵp Sêr SAM fel ymchwilydd ôl-ddoethurol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar beirianneg dyfeisiau a ffiseg y genhedlaeth nesaf o electroneg, yn enwedig celloedd solar perofsgit, organig, LED a ffotosynwyryddion.

​

Yn ei amser hamdden, mae'n hoffi cerdded, siopa, chwarae pêl-droed a choginio

​

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd).
Google Scholar Link

​

bottom of page