top of page

Hanes Sêr SAM

Sêr SAM group members learning meeting

Mae'r rhaglen Sêr SAM wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Ffiseg ac mae'n canolbwyntio ar wyddoniaeth a thechnoleg deunyddiau datblygiadau cynaliadwy newydd (SAM) ar gyfer cymwysiadau fel trosi ynni, electroneg, optoelectroneg a bioelectroneg. Ariennir ein hymchwil o dan fenter Sêr Cymru II Llywodraeth Cymru ond mae ganddo hefyd brosiectau newydd a ariennir gan UKRI ac yn benodol Research England, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a'r EPSRC. Arweinir rhaglen Sêr SAM gan yr Athro Paul Meredith, Cadeirydd Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru, a Dr Ardalan Armin, Cymrawd Seren Rising Sêr Cymru.

Mae ein tîm yn cynnwys ffisegwyr, cemegwyr a pheirianwyr ac mae ein gweithgareddau’n cwmpasu egwyddorion sylfaenol gwyddor deunyddiau hyd at dechnoleg dyfeisiau cymhwysol - damcaniaeth, efelychiadau ac ymchwil arbrofol. Yn ddiweddar, ymunodd rhaglen Sêr SAM â diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru a Chanolfan Nano-iechyd Prifysgol Abertawe er mwyn creu menter newydd - Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) - gyda grant gwerth £29.92 miliwn gan Research England i greu cyfleuster ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf ar gyfer lled-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe, y dylai fod yn agor yn 2022.

​

Mae ein tîm yn cynnwys 20 person sy’n hanu o bedwar ban byd ac sy’n frwdfrydig am greu dyfodol uwch-dechnolegol mwy cynaliadwy trwy ddeunyddiau uwch sy’n doreithiog yn y ddaear, yn gofyn am lai o ynni ac yn isel o ran gwenwynder. Gobeithiwn y bydd ein Porth Rhannu Gwybodaeth yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol ichi. 

Partneriaid Cyllido

swansea uni logo.png
ERDF #1.jpg
Welsh Government Logo
epsrc logo.jpg
RoyalAcademyOfEngineeringLogo.png
hefcw logo.png
CSConnected.png
SPARC logo.png
innovateUK.png
science and tech logo.png
CSC logo.png
research england logo.png
bottom of page