top of page

Amodau, Telerau a Phreifatrwydd

​

​

Gwybodaeth am y cynnwys ar wefan Sêr SAM a'r Porth Rhannu Gwybodaeth:

​

Mae Sêr SAM wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, nid yw Sêr SAM yn derbyn atebolrwydd cyfreithiol am wallau neu hepgoriadau, ac mae'n cadw'r hawl i newid y porth hwn heb rybudd.

​

Caiff ceisiadau rhesymol am newidiadau eu trin fesul achos.

 

Ni fydd Sêr SAM yn derbyn cyfrifoldeb am gyngor neu wybodaeth anghywir a allai fod ar gael drwy dudalennau gwe sy'n gysylltiedig.

​

Hawlfraint

​

Hawlfraint Prifysgol Abertawe yw'r holl destun sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan Sêr SAM, ac eithrio'r testun y nodir yn benodol ei fod yn perthyn i hawlfraint unigolyn/sefydliad arall. Caiff unigolion lawrlwytho neu gopïo'r deunyddiau hynny at ddefnydd personol yn unig.

 

Gellir cyflwyno ceisiadau am ailgynyrchiadau nad ydynt wedi'u nodi'n fynediad agored i Sêr SAM (Swyddfa 401, Tŵr Vivian, Prifysgol Abertawe, Campws Singleton, SA2 8PP) neu sersam@abertawe.ac.ukCedwir pob hawl.

​

Rhaid peidio ag atgynhyrchu heb ganiatâd gan Sêr SAM ymlaen llaw.

​

Cais am Ddileu Gwybodaeth

​

Os ydych yn dymuno i ni ddileu unrhyw dudalen neu unrhyw destun o'r wefan, dylech gysylltu â sersam@abertawe.ac.uk.

​

Cwcis


Mae cwcis yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein porth rhannu gwybodaeth, a chaiff ei chasglu ar ffurf ddienw. Byddwch yn sylwi mai'r unig gwcis wedi'u dethol yn awtomatig ar y porth hwn yw'r rhai sydd wedi'u dosbarthu'n "hanfodol". Mae’r cwcis hyn yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, dilysu hunaniaeth a rheoli'r rhwydwaith.Am unrhyw fathau eraill o gwcis, mae angen caniatâd gan y defnyddiwr.

​

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r polisi hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau ac eglurhadau yn weithredol unwaith y cânt eu postio ar y porth.

​

​

bottom of page