top of page
DSC_2530_edited.jpg
Associate Prof. Ardalan Armin

Cwblhaodd Dr Ardalan Armin (BSc, MSc, PhD mewn Ffiseg) ei astudiaeth PhD yn Adran Ffiseg Prifysgol Queensland, Awstralia, yn 2014. Roedd ei ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar brosesau cludo gwefr a chynhyrchu gwefr mewn celloedd solar perofsgit a ffotosynwyryddion. Yna bu’n ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Queensland am ddwy flynedd a pharhaodd i ymchwilio i gludo gwefrau ac ailgyfuno mewn systemau organig a pherofsgit.

Yn 2017, ymunodd Dr Armin â Chanolfan Awstralia ar gyfer Rhagoriaeth mewn Systemau Cwantwm wedi’u Peiriannu ym Mhrifysgol Queensland gan weithio ar synwyryddion optomecanyddol. Y flwyddyn ganlynol, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Seren y Dyfodol Sêr Cymru iddo ac fe’i penodwyd yn uwch-ddarlithydd yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe. Mae ei weithgareddau ymchwil ac addysgu ar hyn o bryd yn canolbwyntio’n bennaf ar y genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau ar gyfer optoelectroneg a ffiseg dyfeisiau lled-ddargludo.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

Google Scholar

bottom of page