Capabilities
Sêr SAM's lab is located at Swansea University's Singleton Campus. The group takes care to deliver state of the art research and results and possesses a variety of apparatuses, many of which were built in-house.
Capabilities
Sêr SAM's lab is located at Swansea University's Singleton Campus. The group takes care to deliver state of the art research and results and possesses a variety of apparatuses, many of which were built in-house.
Dr. Bernard Mostert
Graddiodd Dr Bernard Mostert o Brifysgol Queensland yn Brisbane, Awstralia. Yma y cwblhaodd ei Faglor Gwyddoniaeth (BSc) mewn Cemeg a Ffiseg yn 2005, ei BSc Anrhydedd mewn Cemeg yn 2006 a’i PhD mewn Ffiseg yn 2011. Ffocws ei PhD ar y pryd oedd bioddeunyddiau. Ar ôl seibiant o astudio am flwyddyn, dechreuodd Dr Mostert rôl ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerhirfryn (Caerhirfryn, y Deyrnas Unedig). Yn 2014, dychwelodd Dr Mostert i Brisbane i ymgymryd â rôl ôl-ddoethurol arall lle bu’n gweithio ym maes bioelectroneg yn bennaf.
Ar ddechrau 2018, ymunodd Dr Mostert â’r grŵp Sêr SAM ym Mhrifysgol Abertawe fel Cymrawd Cyd-gronfa Marie Skłodowska Curie. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddeunyddiau a dyfeisiau bioelectronig â’r nod o ryngwynebu deunyddiau bionig â deunyddiau electronig ar gyfer cymwysiadau meddygol posib. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i greu deunyddiau cynaliadwy ac uwch ar gyfer synhwyro meddygol.
Dr Mostert yw arbenigwr y grŵp mewn mesuriadau sy’n dibynnu ar hydradiad in situ o ddeunyddiau bioddibynnol. Mae’n gwneud hyn ar draws amrywiaeth eang o dechnegau arbrofol – soniaredd magnetig trydanol, gwasgaru niwtronau a thechnegau optegol. Nod y prosiect hwn yw creu prototeipiau o ddyfeisiau biodrydanol at ddibenion synhwyro meddygol posib ar gyfer y corff dynol.
Y tu allan i’w waith, mae Dr Mostert yn treulio ei amser gyda’i wraig a’u pedwar plentyn, mae’n mynychu ei eglwys leol ac yn meithrin ei gariad at goginio a phobi. Mae’n deithiwr brwd ac mae’n hoff o archwilio ardaloedd diwylliannol newydd, gweld tirweddau newydd a chwrdd â phobl newydd.