top of page
David Ritchie Headshot.JPG
Dr. David Ritchie

Mae Dr David Ritchie yn Athro mewn Gwyddor Lled-ddargludyddion a Thechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae’n rhan o’r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM). Mae ef hefyd yn Athro mewn Ffiseg Arbrofol ac yn Gymrawd Coleg Robinson yng Nghaergrawnt. Enillodd ei  radd gyntaf, mewn Ffiseg, o Brifysgol Rhydychen ym 1980 a’i radd D Phil o Brifysgol Sussex ym 1986 gan astudio ffiseg cymysgeddau hylif 3He a 4He ar dymereddau milli-kelvin.

Ers hynny, mae ef wedi bod yn gweithio ar ffiseg lled-ddargludydd III-V ac mae’n meddu ar brofiad helaeth ym maes twf, gwneuthuriad, a mesur strwythurau a dyfeisiau trydanol ac optegol dimensiwn isel. Mae ef wedi bod yn gyd-awdur ar dros 1200 o bapurau a dyfarnwyd medal a gwobr Tabor iddo yn 2008 gan Sefydliad Ffiseg y Deyrnas Unedig ar gyfer ei ymchwil nodedig ym maes ffiseg arwyneb neu nanoraddfa. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2020.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd).

​

Google Scholar

​

ORCID

bottom of page