top of page
DSC_2568_edited.jpg
Mr. Drew Riley

Cafodd Drew ei fagu yn Fictoria, dinas ar Arfordir Gorllewinol Canada. Yn 2013, adleolodd i Halifax, Canada.Yno, mynychodd Drew Brifysgol Dalhousie lle y cwblhaodd ei radd BSc gydag anrhydedd a'i radd MSc mewn Ffiseg. Yn ystod ei gyfnod yn astudio ar gyfer ei radd israddedig, dyfarnwyd gwobr A.S. Mackenzie iddo ar gyfer anrhydedd dosbarth cyntaf ac ysgoloriaeth CGSM i fynychu ei astudiaethau gradd Meistr.  Yn ystod ei gyfnod yn astudio ar gyfer ei radd Meistr, astudiodd sbin-ymlacio ffemtoeiliad o fewn lled-ddargludyddion perofosgit ac enillodd arbenigedd ym maes systemau laser ffemtoeiliad.

Yn 2019, symudodd Drew i Abertawe i ddechrau ei astudiaethau PhD gyda grŵp Sêr SAM ym Mhrifysgol Abertawe. Mae e'n canolbwyntio ar ddatblethu amrywiaeth o lwybrau ymlacio mewn systemau lled-ddargludyddion anhrefnus gan gynnwys organeg a pherofosgitau. Ef yw arbenigwr preswyl Ffiseg Tra Chyflym ac mae wedi bod yn rhan o'r gwaith adeiladu nifer o'r adnoddau y mae'r grŵp yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae gan Drew ddiddordeb mewn Ffiseg Tra Chyflym a Lled-ddargludyddion, yn enwedig mecanweithiau ymlacio mewn lled-ddargludyddion anhrefnus. Drwy gydol ei yrfa, mae Drew wedi gweithio gyda  chwmnïau newydd, darlithio gerbron myfyrwyr israddedig, tiwtora ac addysgu ar lefel israddedig a gwirfoddoli mewn amrywiaeth o grwpiau gwyddoniaeth allgymorth yn Halifax. Cyn astudio yn Dalhousie, gweithiodd Drew fel cogydd crwst. Mae e'n gerddor, yn syrffiwr ac yn deithiwr brwd.

Cyhoeddiadau   (bydd clicio unrhyw un o'r dolenni yn agor ffenestr newydd)

Google Scholar Link

 

LinkedIn

 

 

bottom of page