top of page
Dr. Gregory Burwell

Enillodd Dr Gregory Burwell ei radd meistr mewn mathemateg a ffiseg ym Mhrifysgol Warwick yn 2010. Gan ddychwelyd i’w fro enedigol sef Abertawe, cwblhaodd ei PhD ar destun biosynhwyryddion graffîn ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013. Gwnaeth Greg barhau i ddatblygu ei ddiddordebau mewn technegau nano/microffabrigo a deunyddiau 2D yn ei ymchwil ôl-ddoethurol, gan weithio ar brosiectau a oedd yn cynnwys micro nodwyddau silicon a synwyryddion graffîn. Gan symud i Sefydliad y Gwyddorau Ffotoneg (ICFO) yn Barcelona yn 2015, roedd Greg yn rhan o dîm brwdfrydig iawn a wnaeth ddangos y synhwyrydd delweddau graffîn cyntaf yn y byd gyda CMOS wedi’i integreiddio.

Gwnaeth Greg drosglwyddo’r brwdfrydedd hwn am wireddu defnydd ar gyfer ymchwil yn y byd go-iawn yn ôl i’w waith doethurol ei hun, gan ymuno â chwmni deillio ym Mhrifysgol Abertawe a oedd yn cynhyrchu synwyryddion ar gyfer defnyddiau meddygol a diwydiannol.  Gwnaeth barhau i ddilyn ei ddiddordeb mewn creu a phrofi dyfeisiau opto-electronig gyda chydweithrediadau diwydiannol fel Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.

​

Gan ei fod bob amser yn awyddus am her newydd, ymunodd Greg â’r grŵp Sêr SAM fel Gwyddonydd Ymchwil yn 2019. Dyma ef yn archwilio ffyrdd o gyfuno technegau cynhyrchu anorganig â deunyddiau y gellir eu prosesu mewn toddiad, er mwyn cynhyrchu mathau newydd o ddyfeisiau opto-electronig, rhai ar raddfa fawr a rhai perfformiad uchel.

​

Ar ôl gweithio mewn amgylcheddau gwahanol sy’n cwmpasu’r holl lefelau parodrwydd am dechnoleg (TRLs), yr egwyddor sy’n ysgogi Greg yw y dylai gwaith ymchwil a datblygu gynhyrchu gwyddoniaeth a thechnoleg y gellir eu chwyddo ac sy’n ddefnyddiol i’r gymdeithas. Mae’n benthyg  y cysyniad o ddatblygwr “full-stack” o fyd meddalwedd ac yn rhoi hwn ar waith o ran deunyddiau a dyfeisiau – gan fynd i’r afael â syniadau newydd sy’n deillio o ffiseg sylfaenol, yr holl ffordd i ddyfeisiau y gellir eu marchnata. Ar wahân i’w waith ymchwil, mae Greg yn mwynhau ysgrifennu a chwarae cerddoriaeth..

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

​

Research Gate

bottom of page