top of page
IMG_20191102_171736_290_edited.jpg

Miss. Heather Evans 

Magwyd Heather yn Cape Breton, sy'n ynys fach yn nwyrain Canada oddi ar arfordir Nova Scotia. Yn 2013, enillodd ei gradd Baglor yn y Celfyddydau ag Anrhydeddau mewn Cymdeithaseg a Seicoleg fel pwnc atodol o Brifysgol Mount Allison (New Brunswick, Canada). Roedd ei hymchwil ar y pryd yn canolbwyntio ar Gymdeithaseg y Corff ac astudiaethau'r cyfryngau sy’n gysylltiedig â gwrthrychioli menywod a chyffredinolrwydd anhwylderau bwyta ymhlith menywod.Ar ôl graddio, symudodd Heather yn ôl i Cape Breton lle gweithiodd ym maes polisi cymdeithasol nes penderfynu dychwelyd i'r ysgol i astudio Maeth Cyfannol a Gofal Iechyd Amgen yn Halifax, Nova Scotia.

​

Gorffennodd Heather ei hastudiaethau yng Ngholeg Maeth Naturiol Canada yn 2016 a daeth yn berchennog busnes, yn siaradwr cyhoeddus ac yn athrawes, gan ganolbwyntio ar helpu athletwyr fegan a phobl ag anorecsia. Hefyd, cafodd brofiad o weithio gyda busnesau bach eraill fel cymorth rheoli prosiect a chadw cyfrifon.

Yn 2019, cymerodd Heather y cyfle i symud dramor gyda'i phartner, gan ymgartrefu yng Nghymru. Ymunodd â Sêr SAM ym mis Tachwedd 2019 fel Cynorthwy-ydd Rheoli Prosiect. Mae'r rôl gefnogi hon yn swydd amrywiol sy'n rhoi cyfle i Heather i gael profiad mewn cymorth gweithredol ar gyfer grŵp sy'n gweithio tuag at ddarparu technoleg a thechnegau newydd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. Mae'r heriau a'r cyfleoedd dysgu y mae'n eu hwynebu yn y swydd hon yn cyfuno ei chariad at weithio gyda phobl a'i brwdfrydedd dros chwilio am atebion i un o gwestiynau mwyaf anodd y gymdeithas - beth sy'n dod nesaf?

​

Mae Heather yn dal i fod yn weithredol ym myd eirioli dros anhwylder bwyta, drwy fentora a gwirfoddoli. Yn ei hamser hamdden, mae'n mwynhau coginio ar gyfer ei hunan a phobl eraill, aros yn actif yn y gampfa, syrffio a chwarae cerddoriaeth. Hefyd, mae ganddi gariad at gwrw crefft.

Cyswllt (Bydd clicio unrhyw un o'r dolenni yn agor ffenestr newydd)

 

LinkedIn

bottom of page