top of page
nick.jpeg
Mr. Nick Burridge

Enillodd Nick ei radd BSc mewn ffiseg o Brifysgol Abertawe yn 2019, gan gyflawni dosbarth cyntaf ac ennill y wobr am y myfyriwr graddedig a gyflawnodd uchaf o'r garfan ffiseg. Ymunodd â thîm Sêr SAM ym mis Hydref 2019 am ei radd Meistr MSc drwy Ymchwil mewn Ffiseg Gymhwysol a Deunyddiau.  Mae ei waith ymchwil presennol yn ymwneud ag ymchwilio i fath newydd o bensaernïaeth grid metel i leihau gwrthsafiad dalenni electrodau dargludo tryloyw, felly gan gynyddu effeithlonrwydd trosi pŵer (PCEs) celloedd sy'n defnyddio'r bensaernïaeth.

Nod pennaf yr ymchwil hon yw cynhyrchu cell solar ar raddfa fawr y mae ganddi PCE foddhaol. Yn gyffredinol, mae nodau gwaith ymchwil Nick yn dibynnu'n helaeth ar atal cynhesu byd-eang, y mae'n credu mai dyma'r mater pwysicaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Ei nod yw defnyddio ei wybodaeth am ffiseg i helpu cymdeithas ac adeiladu dyfodol cynaliadwy

​

Magwyd Nick yn ne-ddwyrain Lloegr mewn pentref o'r enw Meopham, taith 30 munud ar drên o Lundain.  Yn ei amser hamdden, mae'n hoffi canu'r piano (yn dysgu ‘Moonlight Sonata’ gan Beethoven ar hyn o bryd), heicio, beicio mynydd, cadw'n heini yn y gampfa ac yn mwynhau cerddoriaeth danddaearol. Ar benwythnosau, bydd yn aml yn cerdded ym Mannau Brycheiniog gyda ffrindiau ac yn mwynhau'r digwyddiadau cerddorol diweddaraf yn Abertawe.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd))

 

LinkedIn

bottom of page