top of page
DSC_2615_edited.jpg
Dr. Oskar Sandberg

Dyfarnwyd PhD i Dr Oskar Sandberg ym Mhrifysgol Abo Akademi, y Ffindir, sy’n rhan o Ysgol Genedlaethol y Ffindir ar gyfer Astudiaethau Doethurol Ôl-raddedig mewn Nanowyddoniaeth. Yn ystod ei PhD, bu’n astudio cludiant ac ailgyfuno gwefrau mewn celloedd solar organig, dan oruchwyliaeth yr Athro Ronald Osterbacka. Ar ôl ennill ei radd PhD, ymunodd Oskar â grŵp Sêr SAM ym Mhrifysgol Abertawe fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn haf 2018. Mae ei ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar ffiseg dyfeisiau’r genhedlaeth nesaf o electroneg, â phwyslais ar efelychiadau celloedd 

organig a ffotosynwyryddion drwy ddyfeisiau electro-optegol. Ymysg pethau eraill, mae’r rhain yn cynnwys defnyddio efelychiadau symudiad-trylediad i ddeall y prosesau ffisegol sylfaenol yn y dyfeisiau hyn; a datblygu technegau cyflwr sefydlog a cherrynt byr trydanol at ddiben nodweddu priodweddau’r ddyfais a’r deunydd perthnasol. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau gwylio ffilmiau a darllen llyfrau.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

 

Orcid

bottom of page