top of page
DSC_2526_edited.jpg
Yr Athro Paul Meredith

Yr Athro Paul Meredith (FLSW) yw Athro Sêr Cymru mewn Deunyddiau Uwch Cynaliadwy yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn y Deyrnas Unedig lle mae hefyd yn arwain y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol a sefydlwyd yn ddiweddar. Mae’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Queensland yn Awstralia, a bu’n Gymrawd Ymchwilydd Neilltuol Rhaglen Discovery Cyngor Ymchwil Awstralia. Addysgwyd yr Athro Meredith yn y DU ym mhrifysgolion Abertawe, Heriot-Watt a Chaergrawnt a threuliodd chwe blynedd fel uwch-wyddonydd yn Procter and Gamble hefyd

Mae ei ymchwil bresennol yn cynnwys datblygu deunyddiau technoleg uwch newydd i’w rhoi ar waith mewn meysydd megis optoelectroneg a bioelectroneg. Mae ganddo ddiddordebau ac arbenigedd penodol yn y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion, caenau arwyneb gweithredol, systemau ynni solar a ffotosynhwyro. Hyd yn hyn, mae’r Athro Meredith wedi cyhoeddi mwy na 240 o bapurau a 28 patent ac mae wedi sefydlu nifer o gwmnïau newydd ar y cyd ag eraill, gan gynnwys XeroCoat a Brisbane Materials Technology. Mae wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Cynaliadwyedd Prif Weinidog Queensland (2013), mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe’i cydnabyddir yn eang am ei gyfraniadau at arloesi a hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Mae wedi bod yn aelod o sawl corff a bwrdd ymgynghorol, gan gynnwys Panel Arbenigwyr Ymchwiliad Cyhoeddus Targed Ynni Adnewyddadwy Queensland a Bwrdd Ymgynghorol Technegol Rhaglen Ymchwil a Datblygu ARENA Solar. Mae ganddo hanes hir a llwyddiannus o ymgysylltu’n gynhyrchiol â phartneriaid diwydiannol.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

​

Google Scholar

bottom of page