top of page
DSC_2622_edited.jpg
Ms. Rhian Jones

Graddiodd Rhian â gradd mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Morgannwg ym Mhontypridd, de Cymru. Dechreuodd ei gyrfa yn Adran Datblygu Economaidd Cyngor Dinas Caerdydd, gan ddarparu cymorth a chyngor ariannol i fusnesau bach. Yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny, astudiodd ar sail ran-amser a graddiodd ag MSc mewn Astudiaethau Adfywio Economaidd o Brifysgol Caerdydd. Ar ddiwedd y cwrs, cwblhaodd brosiect ymchwil yn archwilio'r cysylltiadau rhwng clystyru busnesau ac adfywio, gyda ffocws penodol ar Ddiwydiannau Creadigol Caerdydd.

Symudodd ymlaen yn yr Adran i ddod yn Brif Swyddog Datblygu Economaidd, yn gyfrifol am ddatblygu gwahanol brosiectau cymorth busnes gan gynnwys y rhaglen genedlaethol i osod band eang cyflym iawn mewn busnesau. Ym mis Mehefin 2016, roedd yn rhan o ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Twf a Chystadleurwydd a sefydlwyd ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gynnal adolygiad manwl o economi'r rhanbarth a darparu adroddiad ag argymhellion a fyddai'n sail i Strategaeth Economaidd y Fargen.

​

Ar ôl 12 mlynedd yn y maes hwn, penderfynodd Rhian ddychwelyd i Abertawe i fod yn nes at ei theulu a darganfod her newydd yn ei gyrfa. Ym mis Awst 2017, daeth yn Rheolwr Prosiect grŵp Sêr SAM, yn Siân bob swydd! Ei rôl yw sicrhau y cyflawnir pob agwedd ar y Prosiect yn hwylus, yn fewnol yn y Brifysgol a chyda chyrff ariannu allanol. Mae'n rheoli pob agwedd weithredol ar y prosiect gan gynnwys cyllid, adrodd, archwilio, dangosyddion perfformiad allweddol, recriwtio ac yn ddiweddarach mae'n rhan o'r Tîm Prosiect ar gyfer cyflenwi'r Ganolfan ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludol Cyfunol (CISM).

​

Mae Rhian yn frwdfrydig iawn am ddatblygu economaidd a'r effaith gymdeithasol-economaidd y gellir ei chyflawni ar gyfer rhanbarthau. Mae bod yn rhan o'r Grŵp Sêr SAM wedi ei galluogi i barhau i gyfrannu at y maes hwn, gan weithio mewn grŵp ymchwil â chysylltiadau cryf â byd diwydiant a chynaliadwyedd yn y dyfodol drwy CISM.

bottom of page