top of page
Robin_Kerremans2.jpg
Mr. Robin Kerremans

Magwyd Robin yng Ngwlad Belg lle astudiodd ym Mhrifysgol Gatholig Leuven. Yma enillodd ei Radd Baglor mewn Peirianneg Drydanol yn ogystal â’i radd Meistr mewn Nanowyddoniaeth a Nanodechnoleg. Fel myfyriwr ôl-raddedig, treuliodd Robin gyfnod yn gweithio gydag IMEC, cwmni ymchwil a datblygu sy’n weithredol ym maes nanoelectroneg a thechnoleg y gwyddorau bywyd. Yn 2017, ymunodd Robin â thîm Sêr SAM a chyfoethogodd y grŵp â’i arbenigedd mewn modelu optegol, perofsgitau a dadansoddi data.

Mae Robin wedi cyhoeddi papurau ar ddull gwahanol i Elipsometreg sy’n defnyddio mesurau Trosglwyddo er mwyn darganfod cysonion optegol deunydd, ac ar rinweddau optegol a thrydanol manwl perofsgitau. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i fodelu effeithiau ceudodau mewn mesurau allyriadau.

​

Yn ei amser rhydd, mae Robin yn mwynhau dringo creigiau a chwarae gemau bwrdd.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

 

Google Scholar

​

Research Gate

bottom of page