top of page
Sahar Headshot 1.jpg
Dr. Sahar Basiri-Esfahani

Cwblhaodd Dr Sahar Basiri Esfahani (BSc, MSc, PhD mewn ffiseg) ei hastudiaeth PhD yn 2015 yng Nghanolfan Awstralia ar gyfer Systemau Cwantwm wedi’u Peiriannu (EQuS), Ysgol Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Queensland, Awstralia. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar fesuriad a rheolaeth cwantwm mewn systemau optomecanyddol ceudod. Ar ôl ei PhD, bu’n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn EQuS am ddwy flynedd, gan ymchwilio i synwyryddion optomecanyddol manyldeb uchel. Yn 2018, dyfarnwyd cymrodoriaeth Cyd-gronfa Marie Skłodowska-Curie Actions iddi drwy raglen Sêr Cymru II

a chafodd ei phenodi’n uwch-wyddonydd ymchwil yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar ddefnyddio damcaniaethau systemau cwantwm agored i ymchwilio i effeithiau cwantwm mewn systemau moleciwlaidd organig a synhwyro a metroleg optomecanyddol.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)

 

Research Gate

bottom of page