top of page
Stefan Headshot.png
Dr. Stefan Zeiske

Astudiodd Stefan ffiseg ym Mhrifysgol Potsdam (Potsdam, yr Almaen) a gweithio yn y grŵp PWM a arweiniwyd gan yr AthroDrDieter Neher. Canolbwyntiodd y grŵp PWM ar archwilio ynni'r cyflyrau trosglwyddo gwefr ar ryngwynebau hybrid anorganig/organig.Yn 2018, cwblhaodd Stefan ei radd Meistr Gwyddoniaeth mewn Ffiseg a dechrau ar ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe gan weithio yn y grŵp Sêr SAM a arweiniwyd gan yr AthroDr Paul Meredith. Roedd yn ymddiddori mewn technolegau newydd er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy gyda ffocws arbennig ar ynni solar.

Ar hyn o bryd, mae Stefan yn astudio rhinweddau electronig lled-ddargludyddion anorganig ac organig i'w defnyddio fel haenau ffoto-actif mewn dyfeisiau opto-electronig haen denau megis celloedd solar, deuodau allyrru golau a ffotosynwyryddion.Mae'n datblygu technegau mesur opto-electronig newydd sy'n ceisio meithrin dealltwriaeth sylfaenol well o brosesau creu, cludo ac ail-gyfuno cludwyr gwefr.Ar sail y canfyddiadau, mae'n ceisio nodi prif sianelau colli'r cludwyr gwefr mewn dyfeisiau ffotofoltäig, addasu prosesau gweithgynhyrchu ac yn y pen draw wella effeithlonrwydd systemau ffotofoltäig presennol ac yn y dyfodol o ran trosi pŵer.

bottom of page