top of page
DSC_3078_edited.jpg
Dr. Wei Li

Cafodd Dr Wei Li ei fagu yn Quinjiang, tref fach yn Nhalaith Hubei yn Tsieina. Yn 2013, enillodd ei radd BSc mewn Deunyddiau Cyfansawdd a Pheirianneg gan Brifysgol Jinan. Ar ôl graddio, symudodd Wei i Wuhan lle derbyniodd ei radd MSc gan yr Ysgol Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan yn 2016. Roedd traethawd ymchwil ei radd Meistr yn cynnwys dylunio a gweithgynhyrchu Pilenni Cyfnewid Protonau ar dymheredd uchel ar gyfer celloedd tanwydd.

Yn fuan ar ôl cwblhau ei radd Meistr, ymunodd Wei â’r Grŵp Electroneg Polymerau a Ffiseg Polymerau ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan a dechreuodd ei PhD dan oruchwyliaeth yr Athro Tao Wang. Yn ystod ei PhD, canolbwyntiodd ei brosiect ymchwil ar forffoleg a pherfformiad ffotofoltäig celloedd solar polymer ffwleren a rhai heb fod yn seiliedig ar ffwleren, gan ddefnyddio cyfleusterau pelydr x syncrotron i ddatod y drefn a’r cydgrynhoad moleciwlaidd er mwyn helpu i gynhyrchu celloedd solar polymer perfformiad uchel.

Cyhoeddiadau (bydd clicio ar y dolenni hyn yn agor ffenestr newydd)
Google Scholar Link

​

Research Gate

​

​

bottom of page